Cyngor Ceredigion ‘ddim wedi asesu effaith cau ysgol ar y Gymraeg’
- International
- October 18, 2024
- No Comment
- 11
Yn yr ohebiaeth rhwng y cyngor a swyddfa’r comisiynydd, a gafodd ei rhyddhau ddydd Gwener, mae’r cyngor yn cydnabod nad ydyn nhw wedi cydymffurfio â’u cyfrifoldebau o dan safonau’r iaith, ac maen nhw’n ymrwymo i fynd ati “fel mater o flaenoriaeth” i ddiwygio’r ddogfen Asesiad Effaith ar y Gymraeg, cyhoeddi’r fersiwn newydd ar eu gwefan, a chynnig rhagor o amser ymateb i’r ymgynghoriad.
Gan fod y cyngor yn cydnabod eu bai, dywed y comisiynydd nad oes angen cynnal ymchwiliad i’r achos.
Mae Ysgol Llangwyryfon yn un o dair ysgol wledig yng ngogledd Ceredigion sy’n destun ymgynghoriadau ar eu cau – mae Ysgol Craig-yr-Wylfa ac Ysgol Llanfihangel-y-Creuddyn hefyd yn wynebu bygythiadau i’w dyfodol.
Mae disgwyl y bydd ymgynghoriad ar ddyfodol Ysgol Syr John Rhys ym Mhonterwyd yn agor yn hwyrach yn y mis, wedi i’r cyngor ymgynghori â’r Eglwys yng Nghymru.
#Cyngor #Ceredigion #ddim #wedi #asesu #effaith #cau #ysgol #Gymraeg