Oedi cyfyngu BBC Sounds i’r Deyrnas Unedig yn unig
- International
- April 18, 2025
- No Comment
- 76
Wrth siarad ar Dros Frecwast ar BBC Radio Cymru fore Gwener, dywedodd y newyddiadurwr Andy Bell, sy’n byw yn Awstralia, bod y cyhoeddiad yn “addawol”.
Mae’n gyfrifol am bodlediad Rhaglen Cymru sy’n trafod y cyfryngau Cymraeg, ac mae’n dweud iddo dderbyn tipyn o ymateb o Batagonia, yr Unol Daleithiau yn ogystal ag Awstralia i’r cynllun i gau BBC Sounds i wrandawyr tramor.
Cafodd y datganiad yn cadarnhau’r oedi ei gyhoeddi gyntaf ar wefan newyddion BBC Gogledd Iwerddon, ac mae Andy Bell yn credu bod hynny’n arwyddocaol.
“Oedd ‘na gryn drafod yn Iwerddon yn ddiweddar os oedd y penderfyniad i roi taw ar BBC Sounds yn fyd eang, yn atal y gwasanaeth rhag cyrraedd rhai gwrandawyr yng Ngweriniaeth Iwerddon – a bod hynny’n mynd yn groes i gytundeb dydd Gwener y Groglith,” meddai Andy Bell.
Yn dilyn datganiad diweddara’r BBC, ychwanegodd ei fod yn “weddol hyderus bydd y Gymraeg a’r Gaeleg a’r Wyddeleg yn dal i’w clywed trwy BBC Sounds flwyddyn nesa'”.
#Oedi #cyfyngu #BBC #Sounds #Deyrnas #Unedig #unig