Gallai sin werin fregus Cymru farw mewn cenhedlaeth – adroddiad
- International
- June 25, 2025
- No Comment
- 71
Hwn yw’r ail o dri adolygiad o wariant cyhoeddus yn sectorau’r celfyddydau i’w gomisiynu gan Dafydd Rhys, Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru, ers iddo ymuno yn 2022, a dywedodd ei fod yn un “pwysig iawn”.
“Mae e’n tanlinellu pwysigrwydd cerddoriaeth i ni fel cenedl, mae’n rhan o’n hunaniaeth ni, mae’n bwysig i’n cerddorion ni ac mae angen i ni edrych arno fe yn strategol ac mae angen cefnogaeth.
“Falle bod ‘na ddadl bod y sector yma wedi ei thanariannu ryw ychydig.
“Dwi’n meddwl bod y sector ddim wedi cael ei broffesiynoli gymaint pan mae rhywun yn edrych ar be’ sydd yn digwydd yn yr Alban a be’ sy’n digwydd mewn llefydd fel Iwerddon, yn arbennig.
“Wedi dweud hynny mae’r ddwy wlad yna yn derbyn fwy o nawdd gan eu llwyodraethau nhw.
“Ni bron â threblu’r arian sydd ar gael i gefnogi y maes pwysig yma, ond ar ben hynny mae ‘na gyfleoedd eraill yn Cyngor y Celfyddydau i gefnogi.
“Falle neith rhywun ddweud fod e ddim yn ddigon ond mae e’n gam yn y cyfeiriad cywir dwi’n meddwl.
“Mae e’n fwy o wariant hefyd achos mae swyddog arbennig i ddatblygu cerddoriaeth draddodiadol wedi ei leoli o fewn Tŷ Cerdd, dolen allanol.
#Gallai #sin #werin #fregus #Cymru #farw #mewn #cenhedlaeth #adroddiad