Diwylliant ‘unrhyw esgus i fynd i dafarn’ yng nghadeirlan Bangor
- International
- July 5, 2025
- No Comment
- 71
Dywedodd Jessica – nid ei henw iawn – bod offeiriad, a oedd wedi bod yn yfed mewn digwyddiad yng Nghadeirlan Bangor yn 2022, wedi ymosod arni.
“Roedd wedi yfed gormod o lawer,” meddai wrth y BBC.
“Ro’n i eisoes wedi rhybuddio pobl y noson honno ei fod yn yfed llawer mwy na phawb arall.
“Felly cafodd yr arwyddion yma eu hanwybyddu ac fe arweiniodd hynny at yr ymosodiad.”
Dywedodd Jessica, sydd bellach yn ei hugeiniau cynnar, fod yr offeiriad wedi cyffwrdd â pherson arall hefyd yn ystod y digwyddiad yn y gadeirlan.
Fe wnaeth hi gwyno amdano ac fe ymddiheurodd, ond dywedodd na wnaeth y diwylliant yfed newid.
“Byddai sawl potel o prosecco yn cael eu hyfed ar fore Sul,” ychwanegodd Jessica.
“Unrhyw fath o ddigwyddiad allanol neu ddigwyddiad mewnol mawr, roedd prosecco neu win.”
Fe gadarnhaodd yr Eglwys yng Nghymru fod Jessica yn un o ddau berson wnaeth gwyno am ymddygiad y dyn.
Ychwanegon nhw nad oedd hyfforddiant y dyn i fod yn offeiriad wedi mynd ymhellach.
#Diwylliant #unrhyw #esgus #fynd #dafarn #yng #nghadeirlan #Bangor