Rôl Pen Llŷn yn sgandal The Salt Path
- International
- July 25, 2025
- No Comment
- 62
Erbyn hyn, roedd gan yr Observer bopeth roeddent ei angen.
Alla i ddim cymryd unrhyw glod am effaith yr ymchwiliad. Mae tîm o gyfreithwyr, golygyddion a newyddiadurwyr wedi bod yn gweithio ar bob manylyn o’r stori yma.
Mae Sally Walker wedi galw’r stori yn “gamarweiniol iawn” ac wedi rhyddhau gwrthbrofiad manwl, dolen allanol.
Mewn datganiad ar ei gwefan mae’n dweud ei bod wedi cael ei chwestiynu gan yr heddlu am yr honiadau o embeslo ond na chafodd hi erioed ei chyhuddo a’i bod “yn difaru’n ddwfn unrhyw gamgymeriadau a wnaeth hi yn y blynyddoedd tra’n gweithio yn y swyddfa honno,” a’i bod “yn wirioneddol sori”.
Mae’n cyfaddef ei bod wedi gwneud camgymeriadau ac yn dweud bod yr achos rhyngddi hi a Martin Hemmings wedi ei setlo ar sail “peidio â derbyn” oherwydd “nad oedd ganddi’r dystiolaeth angenrheidiol i gefnogi’r hyn a ddigwyddodd”.
Beth bynnag ddigwyddodd, mae hyn ymhell o fod yn “gytundeb busnes” a aeth o chwith, fel mae’r llyfr yn honni.
Mae llawer o bobl wedi eu siomi’n ofnadwy gan y llyfr sydd yn cael ei ddisgrifio gan y cyhoeddwr yn llyfr “gonest”.
Roedd pobl eisiau credu yn The Salt Path. Ond mae wedi troi allan, mae’n ymddangos, i fod yn ddarn arall o gamwybodaeth.
Fel ddywedodd fy ffrind: “Mae mor drist i ddarganfod fod rhywbeth oedd yn dwymgalon ac wedi ei ysgrifennu’n hyfryd, ddim yn wir,” ond mae Ms Walker yn parhau i sefyll gyda naratif y llyfr.
#Rôl #Pen #Llŷn #sgandal #Salt #Path