Bro’r Eisteddfod: Am dro i Glynceiriog

Bro’r Eisteddfod: Am dro i Glynceiriog

Elin Llwyd MorganFfynhonnell y llun, Elin Llwyd Morgan
Disgrifiad o’r llun,

Lai nag wythnos nes Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2025, yr awdures Elin Llwyd Morgan sy’n ein tywys i Ddyffryn Ceiriog.

Dyma gyfle i ddod i adnabod bro’r Eisteddfod ac un o gymunedau’r ardal sydd wedi bod yn casglu arian yn ddiwyd i gynnal y brifwyl.

Cymreictod y ffin

Cwm cyfrin ar y ffin â Lloegr ydi Dyffryn Ceiriog. Un o’r llefydd hynny sy’n rhoi’r argraff ei fod yn anghysbell am nad ydi o’n rhywle y byddai rhywun yn teithio trwyddo.

Serch hynny, mae o fewn cyrraedd rhwydd i rai o brif draffyrdd Prydain, yn ogystal ag arwain – o ben arall y dyffryn wrth droed mynyddoedd y Berwyn – at bentrefi a threfi perfeddwlad Powys, gan gynnwys Llanrhaeadr-ym-Mochnant â’i Bistyll enwog.

Mae bron i ddeng mlynedd ar hugain ers i mi symud i fyw i Glynceiriog (prif bentre’r cwm) pan benderfynodd y cymar, Peris, ddychwelyd yma i fyw a gweithio efo’r cwmni teuluol (Theo Davies a’i Feibion) sy’n golygu ‘mod i wedi byw fan hyn yn hirach nag ydw i wedi byw yn unlle arall erioed. Ac yma hefyd y cafodd ein mab Joel ei eni a’i fagu.

Elin, Joel a PerisFfynhonnell y llun, Elin Llwyd Morgan
Disgrifiad o’r llun,

Er hynny, person dŵad ydw i’n dal i fod yn y bôn, fel sawl un o’m ffrindiau benywaidd, ynghyd â fy niweddar fam-yng-nghyfraith, Sydney Davies, a enillodd Fedal Goffa T.H. Parry-Williams yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2011 am ei chyfraniad i fywyd diwylliannol, ieithyddol a chymunedol ei hardal.

Y ddiweddar Sydney Davies yn derbyn ei medal T.H.Parry-Williams (efo'i gŵr Theo y tu ôl iddi)Ffynhonnell y llun, Elin Llwyd Morgan
Disgrifiad o’r llun,

Y ddiweddar Sydney Davies yn derbyn ei medal T.H.Parry-Williams (efo’i gŵr Theo y tu ôl iddi)

Credai Sydney fod ein rôl ni fel mewnfudwyr yn allweddol o ran cynnal y pethe, efallai am ein bod ni wedi symud yma o’r cadarnleoedd Cymraeg ac yn sylweddoli mor bwysig ydi morol am Gymreictod ar y Gororau.

Mae ‘na frodorion sy’n gwneud hynny hefyd, wrth gwrs, ynghyd â chriw o ddysgwyr triw o du draw i Glawdd Offa.

Dyffryn tawel fu’n ferw o brysurdeb

Er mai dyma ward etholiadol fwyaf Cyngor Wrecsam o ran arwynebedd, mae’n llawer llai poblog nag ardaloedd eraill yn y fwrdeistref, ac yn wahanol iddynt hefyd o ran ei thirwedd fryniog a choediog.

O enau’r dyffryn yn y Waun, mae’r ffordd yn rhedeg yn gyfochrog ag Afon Ceiriog, gan fynd trwy bentrefi a phentrefannau Pontfadog, Dolywern, Glyn Ceiriog, Pandy a Thregeiriog cyn cyrraedd Llanarmon yn pen draw.

Yr olygfa o'r fryngaer yn LlanarmonFfynhonnell y llun, Elin Llwyd Morgan
Disgrifiad o’r llun,

Yr olygfa o’r fryngaer yn Llanarmon

Er mor heddychlon ydi’r dyffryn erbyn heddiw, arferai fod yn ferw o brysurdeb rhwng ei felinau a’i chwareli niferus, ac yn 1873 agorwyd y Glyn Valley Tramway i gludo ithfaen a llechi, teithwyr a chyflenwadau, a cheir hanes a chreiriau ‘Trên Bach y Glyn’ mewn amgueddfa dreftadaeth yng nghanol y pentre.

Y bardd o'r 19ganrif a brodor Glynceiriog - John Ceiriog HughesFfynhonnell y llun, Wikimedia
Disgrifiad o’r llun,

Y bardd o’r 19eg ganrif a brodor o Lynceiriog – John Ceiriog Hughes

Gerllaw mae Neuadd Goffa Ceiriog, a agorwyd yn 1911 fel cofeb i’r bardd adnabyddus John Ceiriog Hughes. Mae gan yr adeilad gasgliad o gerfluniau a ffenestri lliw cywrain – rhai’n darlunio rhai o gymeriadau hanesyddol Cymru – ac amgueddfa sy’n cynnwys amrywiaeth ddiddorol o arddangosion unigryw.

Ond yn anad dim, mae’r neuadd yn ganolfan gymunedol o bwys lle cynhelir cyfarfodydd, ymarferion côr a digwyddiadau cymdeithasol eraill. Yma hefyd mae Merched y Wawr yn cyfarfod, ac mae’r gwesteion sydd wedi dod atom ni dros y blynyddoedd bob amser yn dotio ati.

Yma y cynhaliwyd Arddangosfa Canmlwyddiant Dŵr Ceiriog 1923 am hanes yr ymgyrch ofer i foddi Ceiriog Uchaf dan ddwy gronfa ddŵr, â Lloyd George (a ddisgrifiodd y dyffryn fel ‘darn bach o’r nefoedd ar y ddaear’) ymhlith nifer o aelodau seneddol a wrthynebodd y cynllun gan Gorfforaeth Warrington.

Y llynedd cafwyd blwyddyn gyfan o ddigwyddiadau yn dathlu canmlwyddiant geni’r llenor amryddawn Islwyn Ffowc Elis, y gwasgarwyd ei lwch yn ei gynefin yn Nantyr, hafan hudolus uwchlaw’r Glyn.

Codi arian at Eisteddfod Wrecsam

Eleni rydyn ni wedi bod yn brysur yn cynnal digwyddiadau i godi arian at Eisteddfod Wrecsam, a chael lot o hwyl yn y broses gan ei fod yn rhywbeth sy’n dod â phobl at ei gilydd (yn lleol ac yn yr ardal ehangach); yn chwistrelliad adfywiol i’r gymuned a thu hwnt, yn enwedig ar ôl cyfnodau hesb y clo.

Wedi dweud hynny, yn ystod y cyfnodau hynny y des i werthfawrogi mwy ar fy milltir sgŵar, gan weld y cefn gwlad dramatig a’i olygfeydd ysgubol o ‘nghwmpas drwy lygaid newydd.

Traphont y waun o'r ddyfrbontFfynhonnell y llun, Elin Llwyd Morgan
Disgrifiad o’r llun,

Traphont y Waun o’r ddyfrbont

Mi fydda i hefyd yn mwynhau picio i dre fach ddifyr y Waun a mynd am dro dros y ddyfrbont ac ar hyd y gamlas; a thros y ‘topie’ i fwrlwm tre Llangollen.

Ac er nad ydi hiraeth am y môr yn rhywbeth sy’ byth yn diflannu’n llwyr, o leia mae ‘na ddigon o ddyfroedd o ‘nghwmpas mewn rhyw ffurf neu’i gilydd.

O ran hinsawdd, rydyn ni’n dueddol o gael tywydd poethach yn yr haf a thywydd oerach yn y gaeaf, ac yn llawer mwy tebygol o gael eira, a tydi’r wefr o weld y plu gwyn yn disgyn a gorchuddio pobman byth yn pylu.

Glynceiriog yn yr eiraFfynhonnell y llun, Elin Llwyd Morgan
Disgrifiad o’r llun,

Bywyd cymdeithasol

O ran bywyd cymdeithasol, mae ‘na griw ohonom ni – Genod y Glyn – sy’n dod at ein gilydd yn rheolaidd am baned, llymed, pryd o fwyd ac ambell wibdaith (o Arfordir Môn i’r Amwythig, o Baris i Belffast), yn ogystal â chlwb darllen a chôr merched Lleisiau Ceiriog.

A thra bod dirfawr angen tafarn dda yn y Glyn ei hun, mae ‘na dafarnau a gwestai eraill gwerth chweil yn y dyffryn, a braf ydi cael ambell noson allan yn Llangollen neu i gigs Cymraeg yn y Saith Seren yn Wrecsam.

Elin yn canu yng nghyngerdd Nadolig Lleisiau CeiriogFfynhonnell y llun, Elin Llwyd Morgan
Disgrifiad o’r llun,

Elin yn canu yng nghyngerdd Nadolig Lleisiau Ceiriog

Fedra’i ddim gwadu nad ydw i’n breuddwydio weithiau am y math o fwthyn lan môr y canai Cynan amdano, ynghyd â pied-à-terre mewn dinas neu dref – Caernarfon, dyweder – yn ychwanegol at ein prif breswylfa. Ond byddai hynny’n ddrud, yn strach, heb sôn am fod yn ddiegwyddor, a dwi’n grediniwr mewn cefnogi gwestai.

Hoffwn honni i ni fod yn ddigon hirben i brynu byngalo ein hymddeoliad – wedi’i leoli’n gyfleus yng nghanol y pentre a gyferbyn â’r syrjeri – dri degawd yn ôl, ond ffliwc lwyr oedd hynny fel yr unig dŷ addas oedd ar gael ar y pryd.

Teg dweud fod ‘na lefydd llawer gwaeth i fyw ynddyn nhw, ac na chewch chi mo’ch siomi os dewch chi am sgowt i’r rhan gyfriniol hon o ogledd-ddwyrain Cymru.

Mwclis y ddraenen wenFfynhonnell y llun, Elin Llwyd Morgan
Disgrifiad o’r llun,

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.



#Bror #Eisteddfod #dro #Glynceiriog

Related post

MND took our son Kyle aged 14

MND took our son Kyle aged 14

Leigh Boobyer,BBC Walesand John Maguire,Swansea Family handout Kyle Sieniawski, 14, is believed to be the youngest person in the UK to…
Meta pivots to AI smart glasses as metaverse bet struggles

Meta pivots to AI smart glasses as metaverse bet…

Meta is shifting some of its investments in the metaverse to AI glasses and wearables, hoping to capitalise on the “momentum”…
Top UK scientist says research visa restrictions endanger economy

Top UK scientist says research visa restrictions endanger economy

One of Britain’s most distinguished scientists, Prof Sir Paul Nurse, says the government is “shooting itself in the foot” with its…

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *