Ateb y Galw: Esgob Tyddewi, Dorrien Davies
- International
- December 26, 2023
- No Comment
- 48
A hithau’n Ddiwrnod Nadolig mae’n briodol mai Esgob newydd Tyddewi, Dorrien Davies sydd yn Ateb y Galw.
Cafodd Dorrien ei ethol ym mis Hydref, a bydd yn cael ei gysegru ar 27 Ionawr yng Nghadeirlan Bangor ac yna ei gadeirio a’i sefydlu fel Esgob yn Nhyddewi ar 3 Chwefror.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Fy atgof cyntaf yw cerdded gyda tad-cu lan i weld fy hen dad-cu ger Felin Wen tu allan i Gaerfyrddin. Roedd hyn bron i 60 mlynedd yn ôl! Dwi’n cofio cerdded gyda fe ger yr hen linell drên yn mynd lan at Landeilo, a dwi’n cofio clywed yr adar o’n cwmpas ni.
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Mae’n rhaid dweud Tyddewi yn do’s e! Mae’n le arbennig, ac yn fan pwysig i mi yn bersonol.
Ond mae ‘na lefydd eraill sy’n bwysig i mi. Mae’n rhaid imi ddweud fod dinas Bangor yn le pwysig i mi yn bersonol. Mae lot o atgofion hapus gen i fel myfyriwr ym Mangor, ac wrth gwrs mi fydda i’n cael fy nghysegru yng Nghadeirlan Bangor.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Y nosweth orau i mi erioed oedd pan ddwedodd y wraig ei bod hi eisiau fy mhriodi i. Digwyddodd hyn yn Llanbed ble aethon ni mas am wac, ac o’n i mor rhamantaidd es i a hi i bwyllgor eglwysi y noson hynny, yn Tal-sarn. Ond ie, honno oedd y noson orau, achos dwi wedi cael priodas hapus, llwyddiannus a llawn.
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Cymeriad. Ffyddlon. Awyddus.
Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy’ o hyd yn gwneud i ti wenu neu chwerthin pan ti’n meddwl nôl?
Bod gyda fy ffrindiau yn mwynhau bywyd myfyriwr ym Mangor.
Roedd arholiad Groeg gen i un bore, a’r noson cyn hynny dyma’n ffrind i, Roseanne Lewis o Lanelli, ma’ hi fel chwaer i mi, a Ceri sydd bellach yn ŵr iddi, yn dweud bo’ nhw’n mynd i barti ar Ynys Môn. ‘Nes i ddweud mod i methu mynd, ond ‘nathon nhw ofyn imi fynd at y bws i ffarwelio a nhw. Felly mas a fi yn fy slipers a cardigan…ac es i nôl i fy stafell am bedwar o gloch y bore.
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya’ o gywilydd arnat ti erioed?
Mae ‘na lot o bethau yn fy mywyd sy’ ‘di codi cywilydd, ac mae’n anodd felly i ganolbwyntio ar un peth. Ond fel rhywun sy’n ystyried hynny mae gras Duw a thrugaredd Duw yn gysur ac yn help ac yn arweiniad i ni.
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?
Bore ‘ma, yn hiraethus am fy mam. Colles i fy mam mis Mehefin, a dwi dal i fod yn hiraethus iawn. Dwi’n gwybod y bydde hi llawn balchder meddwl bo’ fi wedi cyrraedd swydd Esgob Tyddewi. Bu farw hi’n mis Mehefin a cefais i fy ethol ym mis Hydref.
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Oes, dwi’n prynu lot o antiques heb ddweud wrth y wraig. Wedyn dwi’n cwato nhw ac ar ôl tro bach fydda i’n dod mas â nhw, a pan ma’ hi’n gofyn ‘beth yw hwn?’ fi wastad yn dweud bod nhw ‘di bod ‘na erioed.
Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?
Dwi’n mwynhau darllen Un Noson Dywyll gan T. Llew Jones. Rwy’n dweud wrth bobl sydd am ddysgu Cymraeg i ddarllen ei lyfrau fe achos mae ei Gymraeg e’n syml, ond yn effeithiol i ddysgwyr. Mae Un Noson Dywyll wedi ei selio yn ardal Gaerfyrddin hefyd.
Rwy’n hoff iawn hefyd o lyfr David Watson, Jesus Then and Now, gafodd ei gyfieithu i’r Gymraeg gan Cynthia Davies a’r diweddar Saunders Davies. Mae’n lyfr da, llyfr credo – dyw hi ddim rhy ddwfn ond yn tanlinellu pwysigrwydd perthynas ni gyda Duw ac beth mae Cristnogion yn ei gredu.
Dwi’n hoff iawn o Gone with the Wind. Mae’n ffilm neilltuol o dda, ac yn dangos sut mae’r byd wedi bod, fel mae’r byd, ac sut all y byd fod.
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti’n cael diod? Pam?
Mae sawl person. Hoffwn i gael diod gyda Elizabeth I, achos bydden ni’n gallu siarad yn Gymraeg achos roedd hi’n medru’r iaith. Dwi’n credu bydde hi wedi bod yn dibyn o gymeriad. Hoffwn i ofyn iddi, er ei bod hi’n siarad Cymraeg, pam wnaeth hi ddim newid rhai o’r deddfau roedd ei thad wedi cyflwyno ynglŷn â Chymru.
Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Dwi’n ffan mawr o’r band Bananarama – dyna ‘nghyfnod i, a pan oedden nhw’n chwarae byddwn i ar ganol y llawr yn dawnsio.
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti’n ei wneud?
Byddwn i’n paratoi i gwrdd â fy ngwaredwr – ond dyle ni wneud hynny bob dydd. Bydde’r teulu o’n amgylch i, ond yn y diwedd dim ond chi a Duw sydd.
Pa lun sy’n bwysig i ti a pham?
Mae llun gyda fi o fy mam a nhad a finne, pan o’n i tua chwe mis oed. Mae hwnna’n bwysig i fi, ac hefyd llun o’r wraig a’r plant. Felly, llun o’r gorffennol a llun o’r presennol. Os bydde ‘na dân yn y tŷ a bydde cyfle i achub dau lun, nhw fysa’r lluniau.
Petaset ti’n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?
Licen i fod yn gardotyn ar strydoedd Llundain i gael gweld yn gwmws sut beth yw e i fyw ar y stryd. Bues i yn Llundain yn ddiweddar ac fe dorrodd e’n nghalon i i weld y cyflwr ar rai o’r bobl. Byswn i’n hoffi gwybod pam bo’ nhw yn y cyflwr yna a sut maen nhw’n gallu byw, achos oedd e’n oer – weles i un bachgen yn cerdded y strydoedd gyda dim byd ar ei draed e.
Hoffwn i wybod beth sydd wedi dod a nhw i’r sefyllfa yna, os mae e’n rhywbeth personol fel cyffuriau, neu os mai’r ffordd mae’r wlad ar y funud sydd ‘di gwneud y person na’n gardotyn.
#Ateb #Galw #Esgob #Tyddewi #Dorrien #Davies