Capten Cymru Dafydd Jenkins yn dilyn ôl troed Syr Gareth Edwards
- International
- February 2, 2024
- No Comment
- 45
Ar ôl cael ei fagu ym Mhorthcawl, gadawodd Jenkins Gymru yn 16 oed i fynychu Coleg Hartpury, sydd wedi cynhyrchu nifer o chwaraewyr rygbi rhyngwladol – gan gynnwys cyn-asgellwr Cymru, Louis Rees-Zammit a phrop Lloegr, Ellis Genge.
Roedd Jenkins wedi bod yn rhan o academi’r Gweilch ond, tra’n chwarae i Hartpury, fe gysylltodd prif hyfforddwr Caerwysg, Rob Baxter, â fe.
Ymunodd Jenkins â’r clwb yn 2021 tra’n astudio gwyddor chwaraeon ym Mhrifysgol Caerwysg.
Chwaraeodd i dîm rygbi’r brifysgol, gan sgorio cais a chael ei enwi’n seren y gêm yn erbyn Durham ym muddugoliaeth cystadleuaeth Super Rugby BUCS.
Ym mis Tachwedd 2022, yn 19 oed a 342 diwrnod, torrodd Jenkins record Uwch Gynghrair Lloegr fel y capten ieuengaf, mewn buddugoliaeth i Gaerwysg yn erbyn Gwyddelod Llundain.
Doedd dim syndod felly wrth i Jenkins ennill cydnabyddiaeth ryngwladol yn fuan ar ôl hynny.
#Capten #Cymru #Dafydd #Jenkins #dilyn #ôl #troed #Syr #Gareth #Edwards