Cyngor yn gwrthod ateb cwestiynau ASau am Ffos-y-Fran
- International
- April 24, 2024
- No Comment
- 46
Fe wnaeth pwyllgor newid hinsawdd y Senedd wahodd y cwmni, y cyngor lleol, yr Awdurdod Glo ac ymgyrchwyr amgylcheddol i fod yn rhan o “ymchwiliad byr”.
Yn eu llythyr yn ymateb, fe ddywedodd Cyngor Merthyr Tudful bod gallu eu swyddogion i ddarparu tystiolaeth yn “gyfyngedig”.
Roedd staff oedd wedi delio â’r ceisiadau cynllunio gwreiddiol, a’r trefniadau cyfreithiol ac ariannol wedi hen adael yr awdurdod, meddai’r llythyr.
“Yn hynny o beth, mae’r wybodaeth gefndirol, y cyd-destun a chymhlethdodau’r datblygiadau wedi’u cyfyngu i’r wybodaeth sydd wedi’i chasglu yn gymharol ddiweddar gan y swyddogion rheiny sydd wrthi’n negydu ar ran yr awdurdod (ar hyn o bryd).”
Er eu bod yn goruchwylio glofa brig fwya’r DU, mae’r cyngor hefyd yn egluro nad oes ganddyn nhw yr un swyddog arbenigol ar faterion cynllunio yn ymwneud â mwynau fel glo.
Yn hytrach, maen nhw’n dibynnu ar gytundeb gyda chyngor Sir Gaerfyrddin “i ddarparu gwaith mwynau, gan gynnwys ceisiadau cynllunio”.
Mae Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi cytuno i wahoddiad y pwyllgor i gymryd rhan yn yr ymchwiliad ac fe fyddan nhw’n ymddangos mewn sesiwn arall ym mis Mai, lle bydd aelodau hefyd yn clywed gan drigolion lleol.
#Cyngor #gwrthod #ateb #cwestiynau #ASau #FfosyFran