Dadorchuddio Cadair a Choron Eisteddfod yr Urdd Maldwyn
- International
- May 16, 2024
- No Comment
- 41
Mae’r goron yn cynnwys cyfres o ŷd, triban yr Urdd wedi’i grefftio o lechen Gymreig, cerrig arian o Afon Dyfi, y geiriau ‘Mwynder Maldwyn’ ac ‘Urdd Gobaith Cymru’.
Mae’r cap wedi’i wneud o ddefnydd melfed euraidd.
Dywedodd Llio Maddocks, cyfarwyddwr celfyddydol Urdd Gobaith Cymru: “Rydym yn gobeithio’n fawr y bydd teilyngdod ymhen pythefnos er mwyn i bobl fwynhau campweithiau’r gadair a’r goron yma am flynyddoedd i ddod.
“Diolch i’r crefftwyr talentog, y pwyllgorau a’r noddwyr am eu gwaith caled a’u cefnogaeth, yn sicrhau fod gan Eisteddfod yr Urdd Maldwyn 2024 wobrau unigryw sy’n adlewyrchu diwylliant a hanes cyfoethog yr ardal hyfryd yma o Gymru.”
Bydd seremoni’r cadeirio yn cael ei gynnal ar ddydd Iau’r Eisteddfod ac yn cael ei noddi gan Ymddiriedolaeth Ivor ac Aeres Evans.
Cynhelir seremoni’r coroni ar ddydd Gwener yr ŵyl diolch i nawdd gan Brifysgol Caerdydd.
#Dadorchuddio #Cadair #Choron #Eisteddfod #Urdd #Maldwyn