Dod i ‘nabod Tristwch y Fenywod, y band gothig Cymraeg o Leeds
- International
- July 5, 2024
- No Comment
- 33
Dwi’n ceisio sgwennu am bethau sy’n bersonol iawn i mi. Dwi’n drawsfenyw anabl, goth, gafodd ei magu yng ngogledd Cymru; lle sy’n llawn harddwch ond tywyllwch ar yr un pryd.
Dwi wastad wedi bod yn outsider, yn weirdo ac yn falch o hynny. Dwi ddim yn licio’r casineb dwi’n ei dderbyn gan bobl yn y byd am fod fel’na, ond fydda i ddim yn teimlo cywilydd.
’Dan ni i gyd yn y band yn ferched cwiar, niwrowahanol, felly mae ganddon ni deimladau tebyg am y peth.
Yn fy ngeiriau, dwi’n trio mynegi pethau sydd ddim yn rili presennol mewn cerddoriaeth Gymraeg.
Yn y gân Llwydwyrdd, y lliwiau llwyd a gwyrdd ydi lliwiau gogledd Cymru gyda’r gymysgedd ryfedd o dirlun naturiol a diwydiant ar yr un pryd, sydd yn rhan fawr o fy nychymyg i. Mae’r gân yn disgrifio perthynas lesbiaidd a cwiar lle mae’r ddwy yn byw efo iselder, yn y lleoliad yma sydd yn gymysg o gariad a dioddefaint.
Mae pawb sydd yn byw efo iselder, sy’n niwro-amrywiol neu sydd yn bobl LHDTC+ yn gwybod bod rhannau o’r byd hwn yn dywyll.
‘Dan ni’n ceisio ymaelodi’r tywyllwch a’r golau efo’i gilydd, achos mae hwnna’n adlewyrchu’r profiad o geisio bodoli yn ein cymdeithas, lle mae pawb yn wahanol.
Fydd pawb ddim am ddallt yn syth, ond mae’n bwysig i greu cynrychiolaeth am brofiadau lleiafrifol.
#Dod #nabod #Tristwch #Fenywod #band #gothig #Cymraeg #Leeds