Enwi dau ddyn o Gymru fu farw ar ôl boddi yn Awstralia

Enwi dau ddyn o Gymru fu farw ar ôl boddi yn Awstralia

Mae enwau tad a mab o Gymru fu farw ar ôl boddi ger y Great Barrier Reef yn Awstralia wedi eu cyhoeddi.

Cafodd Robin Reed 46, a’i fab Owen, 17, oedd o Sir Caerffili eu llusgo allan i’r môr wrth nofio ar draeth yn nhref Seventeen Seventy, Queensland, lle nad oedd achubwyr bywyd yn bresennol ar 13 Ebrill.

Cafodd y ddau eu tynnu allan o’r dŵr gan hofrennydd achub yr heddlu, ond bu farw’r tad a’r mab yn y fan a’r lle.

Fe wnaeth Treowen Stars FC, sydd wedi ei leoli ger Trecelyn yng Nghaerffili, gyhoeddi teyrnged ar Facebook: “Roedd Robin yn ffrind da i nifer yn Nhreowen a byddwn yn ei golli’n fawr.”

Dywed y datganiad: “Newyddion trist, trist iawn am Robin Reed a’i fab Owen.

“Mae ein meddyliau a’n cydymdeimladau dwysaf gyda theulu a ffrindiau Robin ac Owen.”

Dywedodd llefarydd ar ran Llys y Goron Queensland fod y marwolaethau wedi cael eu hadrodd iddyn nhw.

“Gan fod ymchwiliadau’r crwner i’r marwolaethau newydd ddechrau, nid oes modd rhyddhau unrhyw wybodaeth bellach ar hyn o bryd.”

#Enwi #dau #ddyn #Gymru #farw #ôl #boddi #Awstralia

Related post

Potholes map rates council road repair progress

Potholes map rates council road repair progress

Drivers in England will be able to see how local authorities are tackling roads riddled with potholes via a new mapping…
Will Elon Musk’s X changing the Iranian flag have any impact on the ground? | Elon Musk

Will Elon Musk’s X changing the Iranian flag have…

Amid intensifying protests in Iran, the world’s richest man has weighed in. On January 4, Elon Musk, the multi-billionaire owner of…
The Berkshire mum looking to encourage others into rugby

The Berkshire mum looking to encourage others into rugby

Nathan BriantSouth of England Annette Bevan Annette Bevan wants other mums to feel that they can play rugby after having a…

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *