Etholaeth Pen Llŷn i’r ffin â Lloegr yn rhan o gynlluniau newydd

Etholaeth Pen Llŷn i’r ffin â Lloegr yn rhan o gynlluniau newydd

Mae cyn-arweinydd Plaid Cymru, yr Arglwydd Dafydd Wigley, wedi dweud ei fod “wedi dychryn” o weld maint yr etholaethau newydd sydd wedi cael eu hargymell gan Gomisiwn Democratiaieth a Ffiniau Cymru.

Yn siarad ar raglen Dros Ginio ar BBC Radio Cymru fe gwestiynodd sut y gallai un aelod gynrychioli ardal mor fawr.

“Sut goblyn mae un aelod am gynrychioli ardal o Ynys Enlli i ffin Lloegr? Dwi ddim yn gwybod,” meddai.

Ychwanegodd Mr Wigley ei fod yn cefnogi’r cynnydd mewn Aelodau i’r Senedd, ond bod maint yr etholaethau newydd yn bryder.

“Dwi’n argyhoeddedig bod lles a dyfodol Senedd Cymru yn dibynnu ar gael etholaethau ac unigolion o fewn eu cymunedau i deimlo eu bod yn cael cynrychiolaeth yno, ac os ydi’r enwau yn ddiarth ac yn byw 70-80 milltir i ffwrdd, sut goblyn mae hynny yn mynd i weithio?

“Dwi wedi dychryn o weld maint yr etholaethau sy’n cael eu hargymell – yn arbennig yr un sy’n cymryd i fewn fy hen ardal i Caernarfon. Etholaeth fysa’n rhedeg trwodd i Faldwyn ac i Dde Clwyd i ardal Glyndŵr.

“Os ydi ardal mor fawr ac efo gwahaniaethau mor enbyd yn ei diwydiant, yn ei hiaith, yn ei diwylliant, yn ei ffurf o fyw, be sy’n mynd i ddioddef fwyaf ydi cefn gwlad a dwi’n credu fod hynny yn gwbl annerbyniol,” ychwanegodd.

#Etholaeth #Pen #Llŷn #ffin #Lloegr #rhan #gynlluniau #newydd

Related post

UK inflation dips by more than expected to 3.2%

UK inflation dips by more than expected to 3.2%

Falls in food, alcohol, and clothing prices last month helped drive inflation to its lowest level in eight months in November.…

Resident doctors in England begin five days of strike…

Resident doctors in England have begun five days of strike action after rejecting the government’s latest offer to resolve the long-running…
‘Shambles’ as man dies from sepsis after 34-hour medication delay

‘Shambles’ as man dies from sepsis after 34-hour medication…

Greig WatsonEast Midlands Google Graham had been taken for treatment to Bassetlaw Hospital several times before The care given to a…

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *