Gambl dewis Allen i gychwyn yn erbyn Montenegro – Bellamy
- International
- October 13, 2024
- No Comment
- 30
Mae Craig Bellamy wedi cyfaddef y byddai’n gambl dewis Joe Allen i gychwyn y gêm yn erbyn Montenegro nos Lun.
Fe ddaeth Allen, 34, allan o’i ymddeoliad rhyngwladol i gael ei ddewis yn rhan o garfan Cymru ar gyfer gemau Cynghrair y Cenhedloedd y mis yma, ond ni chafodd ei ddewis ar gyfer y gêm gyfartal yn erbyn Gwlad yr Ia nos Wener.
Yn sgil trafferthion ffitrwydd, chwe gwaith yn unig y mae wedi ymddangos fel eilydd i dîm Abertawe’r tymor hwn, gyda Chymru yn brin o chwaraewyr canol cae fel Ethan Ampadu, Aaron Ramsey a Jordan James.
“Mae’n amlwg y bydd yn gambl ei gynnwys i gychwyn y gêm oherwydd cyn lleied y mae wedi chwarae eleni,” meddai’r prif hyfforddwr, Craig Bellamy.
“Mae hynny’r un mor wir am nifer eraill o’n chwaraewyr hefyd. Mae nifer ohonyn nhw yn gwneud job dda iawn er nad ydyn nhw’n chwarae’n rheolaidd.”
“Gobeithio y bydd mewn sefyllfa i chwarae i mi fory. Hyd yn oed os na fydd hynny’n bosib, mae wedi cael wythnos wych i ni ac mae wedi bod yn bositif iawn i ni.”
#Gambl #dewis #Allen #gychwyn #erbyn #Montenegro #Bellamy