
O Gymru i Lydaw ac yn ôl: Hanes cysylltiad y ‘cefndryd Celtaidd’
- International
- June 20, 2024
- No Comment
- 47
Er mwyn helpu gyda’r gwaith o ‘achub eneidiau’ y Llydawyr Pabyddol, lluniodd gasgliad o emynau Llydaweg, Telen ar C’hristen, sy’n cynnwys cyfieithiadau o’r Gymraeg a’r Ffrangeg, yn aml i’w canu ar alawon Cymraeg.
Mae emyn o’r enw Doue ha va bro (Duw a fy ngwlad) i’w ganu ar dôn Mae hen wlad fy nhadau. Yr hyn sy’n drawiadol am yr emyn yw’r cyfeiriad at hoffter y Llydawyr o ‘win ardant’, neu frandi! Sonnir am y ddiod gadarn fel ‘unben sy’n gwasgu ar y bobl’, ac fel bwystfil y mae’n rhaid ei waredu o Lydaw.
Mae’n amlwg iddynt gael tipyn o lwyddiant, oherwydd pan benderfynwyd codi capel ym mhentref Lesconil, sonia Evan Jones, brawd William Jenkyn Jones, mewn llythyr, bod angen y capel ‘gan fod yr ystafell lle y cynnaliwn ein cyfarfodydd wedi dyfod yn llawer rhy fechan’.
Wedi ei gwblhau yn 1912 mae capel ‘Bethel’ yn dal i sefyll ar rue Jean Jaurès, a bu’n addoldy Protestanaidd tan 2007. Heddiw mae’n Ganolfan Celfyddydau cymunedol.
#Gymru #Lydaw #ôl #Hanes #cysylltiad #cefndryd #Celtaidd