‘Sgyrsiau yn fuan’ am ethol Eluned Morgan yn brif weinidog
- International
- July 25, 2024
- No Comment
- 26
Roedd Ms Morgan wedi sicrhau cefnogaeth 26 o’r 30 aelod Llafur yn y Senedd cyn i’r cyfnod enwebu gau ddydd Mercher.
Cyn dod yn brif weinidog yn ffurfiol, mae gofyn i’w rhagflaenydd Vaughan Gething ymddiswyddo’n swyddogol cyn pleidlais yn y Senedd.
Fe ddywedodd Mr Gething ei fod yn bwriadu ildio’r swydd wedi i bedwar aelod blaenllaw o’i lywodraeth ymddiswyddo dros wythnos yn ôl.
Roedd Mr Gething dan gwmwl gydol ei gyfnod fel prif weinidog oherwydd rhoddion dadleuol o £200,000 i’w ymgyrch arweinyddol gan gwmni troseddwr amgylcheddol.
Fe gollodd bleidlais o ddiffyg hyder ynddo wedi i ddau AS Llafur fethu â’i gefnogi.
Cododd ffrae hefyd wedi i Mr Gething ddiswyddo un o’i weinidogion, Hannah Blythyn, am rannu negeseuon testun gyda’r wasg – honiad y mae hithau yn ei wadu.
Ymddiswyddodd Mr Gething, AS De Caerdydd a Phenarth, wedi 118 o ddiwrnodau yn y swydd.
#Sgyrsiau #fuan #ethol #Eluned #Morgan #brif #weinidog