Sut fydd Vaughan Gething yn cael ei gofio yn y Senedd?
- International
- September 8, 2024
- No Comment
- 24
Mae’r rheiny sy’n adnabod Vaughan Gething ers blynyddoedd yn dweud ei fod wastad wedi bod yn uchelgeisiol, a mae hynny i’w weld yn ei yrfa hyd yn hyn.
O fod yn lywydd Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru, yn ymgyrchydd dros ddatganoli, cynghorydd yn Nhre-biwt, ac yna yn aelod o’r Senedd – ble ddaeth yn wyneb cyfarwydd fel y gweinidog iechyd ar ddechrau’r pandemig.
Y cam naturiol nesaf iddo, oedd arwain ei wlad, ond er gwaethaf ei uchelgais chafodd o ddim y cyfle i gyflawni’r hyn yr oedd eisiau ei wneud fel prif weinidog.
Ond mae wedi bod yn rhan o wleidyddiaeth Cymru ers dros 30 mlynedd, felly mae’n anodd dychmygu Vaughan Gething yn troi ei gefn yn llwyr ar y byd gwleidyddol.
Ac mae’n glir o’i ddatganiad ei fod yn credu bod ganddo dal rôl i’w chwarae ym mywyd cyhoeddus Cymru, gan ddweud ei fod yn edrych ymlaen at weithio ar faterion yn ymwneud â “chyfiawnder cymdeithasol”.
Da’ ni ddim yn gwybod eto os y bydd yn cael ei alw’n ôl i roi tystiolaeth pellach i’r ymchwilaid Covid am ei negesueon testun.
Ond mae un peth yn sicr, mi fydd o’n parhau i fod yn ffigwr blaenllaw, fydd yn hawlio sylw.
#Sut #fydd #Vaughan #Gething #cael #gofio #Senedd